P-06-1224 Dylunio cynllun peilot Incwm Sylfaenol Cyffredinol ‘Ymadawyr Gofal a Mwy’ sy'n cynnwys amrywiaeth o bobl

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Jonathan Rhys Williams, ar ôl casglu cyfanswm o 1,051 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:          

Rydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru ddylunio cynllun Incwm Sylfaenol Cyffredinol (ISC) yn ôl ardal ddaearyddol sy'n cynnwys plant, pobl gyflogedig, pobl ddi-waith a phensiynwyr, yn ogystal â'r rhai sy'n gadael gofal.

 

Bydd hyn yn caniatáu i Lywodraeth Cymru a'r cyhoedd ddeall sut y byddai'r polisi'n effeithio ar Gymru pe bai'n cael ei gyflwyno yfory.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         De Caerdydd a Phenarth

·         Canol De Cymru